Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

 

 

Diwygiadau arfaethedig i’r cynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC)

 

Cyflwynwyd gan:

 

Grwp Gorchwyl a Gorffen PPC Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 


 

Diwygiadau Arfaethedig:  Rheoliad ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

 

 

DIWYGIAD 1

 

 

 

Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

 

Erthygl 2.4

 

 

Rheoliad drafft

Diwygiad

The Common Fisheries Policy shall integrated the Union environmental legislation requirements.

The Common Fisheries Policy shall integrate Union environmental legislation requirements: contribute to the achievement of good environmental status of EU waters by 2020 and favourable conservation status under Directive 92/43/EEC and Directive 2009/147/EC.

 

 

_____________

Rheswm:

 

Mae gan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC) rôl hanfodol i’w chwarae er mwyn rhoi Cyfarwyddeb y Strategaeth Forol ar waith. Er ein bod yn croesawu’r gydnabyddiaeth yn y cynigion y dylai’r Polisi integreiddio deddfwriaeth amgylcheddol yr Undeb, mae rhanddeiliaid wedi mynegi pryder ynghylch diffyg eglurder o ran amcanion cynigion y PPC a gofynion y Gyfarwyddeb. Os na cheir cysylltiad clir a phenodol rhyngddynt, rydym yn pryderu y gallai greu anghysondebau a pheri gwrthdaro rhwng gofynion y Gyfarwyddeb a nodau’r PPC yn y dyfodol.

 

Yn yr un modd, mae’r ffordd y caiff y PPC ei roi ar waith yn effeithio’n uniongyrchol ar allu’r Aelod-wladwriaethau i roi gofynion y Cyfarwyddebau Cynefinoedd ac Adar ar waith yn effeithiol. O gyfeirio’n benodol at y Cyfarwyddebau hyn yn nhestun cynigion y PPC, bydd yn rhoi hwb pwysig i’r rheini sy’n gyfrifol am roi’r Polisi ar waith i sicrhau eu bod yn rhoi ystyriaeth briodol i’w gofynion.

 

                                                     

 

 


 

DIWYGIAD 2

 

Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

 

Erthygl 2.5

 

Rheoliad drafft

Diwygiad

Dim ar hyn o bryd

Ychwanegu adran 5 newydd at Erthygl 2:

 

Multiannual plans shall, where possible, be adopted by 2015.

 

Rheswm

O reoli stoc drwy gynllunio dros nifer o flynyddoedd, yn unol â dull sy’n seiliedig ar ecosystemau, bydd yn sicrhau gwell canlyniadau i stociau pysgod yr UE ac i ddiwydiant pysgota’r Undeb. Er ein bod yn sylweddoli y gall bylchau o ran data a gwybodaeth wyddonol yn y tymor byr rwystro camau i lunio rhai cynlluniau amlflwydd, mae’u pwysigrwydd i lwyddiant y polisi’n golygu ein bod yn credu bod rhaid ymrwymo i’w llunio ar fyrder. Felly, rydym yn credu, lle bo modd, y dylid mabwysiadu cynlluniau amlflwydd erbyn 2015 yn unol â’r ymrwymiad i sicrhau cynnyrch cynaliadwy uchaf ar gyfer stociau pysgod erbyn 2015.

_____________

 

 

 

 

DIWYGIAD 3

 

Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

 

Erthygl 12.1

 

Rheoliad drafft

Diwygiad

In special areas of conservation within the meaning of Article 6 of Directive 94/43/EEC, of Article 4 of Directive 2009/147/EC and of Article 13(4) of Directive 2008/56/EC, fishing activities shall be conducted by Member States in such a way so as to alleviate the impact from fishing activities in such special areas of conservation.

 

In special areas of conservation within the meaning of Article 6 of Directive 94/43/EEC, of Article 4 of Directive 2009/147/EC and of Article 13(4) of Directive 2008/56/EC, fishing activities shall be conducted by Member States in such a way so as to avoid deterioration of habitats and disturbance of species in such special areas of conservation.

 

 

Rheswm

Mae pryder difrifol bod Erthygl 12.1, fel y mae wedi’i drafftio ar hyn o bryd, yn gwanhau amcan y Cyfarwyddebau Cynefinoedd ac Adar, ynghyd â’r lefelau gwarchodaeth y maent yn eu darparu i rywogaethau a chynefinoedd. Er ei bod yn bosib mai gwall drafftio yn nhestun y cynigion yw hwn, gall fod iddo oblygiadau difrifol o ran rhoi’r Cyfarwyddebau hyn ar waith yn effeithiol.

 

_____________

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

DIWYGIAD 4

 

Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

 

 

Erthygl 12.2

 

Rheoliad drafft

Diwygiad

The Commission shall be empowered to adopt delegated acts in accordance with Article 55, to specify fishing related measures to alleviate the impact of fishing activities in special areas of conservation

 

The Commission shall be obliged to adopt delegated acts in accordance with Article 55, to specify fishing related measures to avoid deterioration of habitats and disturbance of species in such special areas of conservation.

 

 

Rheswm

Mae pryder difrifol bod Erthygl 12.2, fel y mae wedi’i drafftio ar hyn o bryd, yn gwanhau amcan y Cyfarwyddebau Cynefinoedd ac Adar, ynghyd â’r lefelau gwarchodaeth y maent yn eu darparu i rywogaethau a chynefinoedd. Er ei bod yn bosib mai gwall drafftio yn nhestun y cynigion yw hwn, gall fod iddo oblygiadau difrifol o ran rhoi’r Cyfarwyddebau hyn ar waith yn effeithiol.

 

 


 

DIWYGIAD 5

 

Cynnig ar gyfer rheoliad gan Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

 

 

Erthygl 37.3

 

Rheoliad drafft

Diwygiad

Member States shall ensure the national coordination of the collection and management of scientific data for fisheries management. To this end, they shall designate a national correspondent and organise an annual national coordination meeting. The Commission shall be informed of the national coordination activities and be invited to the coordination meetings.

Member States shall ensure the national coordination of the collection and management of scientific data for fisheries management and shall produce multi-annual plans for data collection. To this end, they shall designate a national correspondent and organise an annual national coordination meeting. The Commission shall be informed of the national coordination activities and of the production of multi-annual plans and be invited to the coordination meetings.

 

Rheswm

 

Rhaid seilio’r PPC ar sylfaen dystiolaeth wyddonol gadarn. Bydd yn bwysig casglu ystod eang o ddata o ansawdd da er mwyn llunio a gweithredu cynlluniau amlflwydd llwyddiannus a bydd hyn yn hanfodol er mwyn datblygu pysgodfeydd cynaliadwy yn Ewrop. I sicrhau bod yr Aelod-wladwriaethau’n rhoi sylw difrifol i’r gwaith o gasglu data a thystiolaeth, rydym yn cynnig y dylid cryfhau rheoliadau’r PPC i beri iddi fod yn ofynnol i’r Aelod-wladwriaethau lunio cynlluniau casglu data gyda rhanddeiliaid.